Pontio: Opera Cenedlaethol Cymru
Cyswllt 01248 382828, www.pontio.co.uk

Opera Cenedlaethol Cymru: A Night in Vienna         11/01/2019     7.30pm           

Yn dilyn cyngerdd a gafodd groeso eithriadol yn 2018, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor ym mis Ionawr gyda chyngerdd Blwyddyn Newydd poblogaidd arall.
Yn ein rhaglen eleni mae gennym nid yn unig ein cerddorfa ddawnus, ond hefyd ddimensiwn newydd a phriodol, caneuon a fydd yn sicr o ddod ag ysbryd Fienna a'i neuaddau cyngerdd yn fyw. Dan gyfarwyddyd medrus ein Blaenwr ac Arweinydd Cerddorfa, David Adams, mae'r cyngerdd yn agor gydag ynni anorchfygol Agorawd Oberon gan Weber. Yna cawn fwynhau David fel unawdydd yn chwarae gweithiau cain a meistrolgar gan Fritz Kreisler.
Yn unol â thraddodiad blynyddoedd maith, bydd y Gerddorfa wedyn yn eich arwain drwy ddetholiad hyfryd o waltsiau, polcas a chaneuon Fiennaidd sy'n adnabyddus a hoff gan lawer ledled y byd. Bydd Cân Chwerthin Strauss, Csárdás, Vilja o waith Lehar, y Blue Danube fytholwyrdd a’r Radetsky March cynhyrfus yn sicr o wneud hon yn Flwyddyn Newydd Dda Iawn i chi gan Opera Cenedlaethol Cymru!

£17/£16 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18

Lleoliad Pontio