Pontio: Hedfan am Hanner Dydd: Sesiwn 1
Cyswllt 01248 382828, www.pontio.co.uk

14/01/2019, 27/02/2019, 11/03/2019, 15/04/2019                     12pm    Gweithdy    

Sesiwn hwyliog a chyfle i roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol.
Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan! Rhowch dro ar 1 sesiwn neu talwch am 4 am bris gostyngol!
Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau.
Oed: 16+
Nifer cyfyngedig - lle i 12

£6/£20 am yr 4 sesiwn

Lleoliad Pontio