Cafwyd Menter Iaith Bangor ei lansio yn 2014 gan ein pwyllgor, a hynny mewn ymateb i ganlyniadau cyfrifiad 2011, oedd wedi dangos cwymp o 10% yng nghanran siaradwyr Cymraeg y ddinas o 45% yn 2001 i 35% yn 2011.  Serch hynny, mae Bangor yn parhau fel y ddinas fwyaf Cymraeg yng Nghymru, a’r byd i gyd, o ran y canran o siaradwyr Cymraeg sydd yn byw yma.

Nod ac amcanion y Fenter

Nodau cyffredinol Menter Iaith Bangor yw hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, er mwyn iddi ddod yn rhan o fywyd pob dydd Bangor. Gellir crynhoi ein prif amcanion fel y ganlyn:

  • Hybu’r cynnydd o 5.1% rhwng 2001 a 2011 yn y ganran o blant 3-15 oed sydd yn gallu siarad Cymraeg.
  • Hybu’r defnydd cymdeithasol, naturiol o’r Gymraeg trwy gynnal, cyfrannu a chefnogi gweithgareddau, digwyddiadau a dathliadau. Er enghraifft, rydym yn cynnal Diwrnod Hwyl Popdy yn flynyddol. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau Panad a Moider a Pheint a Sgwrs yn rheolaidd, er mwyn cynnig cyfle i bobl Bangor defnyddio’r Gymraeg o fewn sefyllfaoedd anffurfiol.
  • Atal a gwyrdroi’r dirywiad o 9% yn y ganran (pob oed) sy’n gallu siarad Cymraeg, a’r dirywiad o 9.1% ymhlith grŵp oed 16-24. 
  • Cynnal gorolwg holistaidd ar gyflwr iechyd ieithyddol dinas Bangor, gan gynnwys effeithiau economaidd, cymdeithasol ac o ran datblygiadau cynllunio preswyl ac economaidd.