Ffactoids Bangor

  • Sefydlwyd eglwys/mynachlog ar safle Cadeirlan Bangor 525AD. Un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ar Ynysoedd Prydain.
  • Amgylchynwyd y fynachlog gan fath arbennig o ffens wedi ei wneud o bostion a changhennau wedi eu plethu. Enw’r math yma o ffens? Bangor.
  • Mae Pier Y Garth yn cael ei gydnabod fel pier Fictorianaidd gorau Cymru, ac un o’r pump gorau ym Mhrydain.
  • Yn ôl y llyfrau aeth Bridget Jones i Brifysgol Bangor.
  • Ar y 5 o Fedi 1962 enillodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor o ddau gol i ddim yn erbyn y byd enwog Napoli.
  • Stryd Fawr Bangor yw’r hiraf yng Nghymru.
  • Mae yna o leiaf 5 Bangor yn y byd – ond un ni ydi’r gorau! 
    • Bangor, Maine, UDA
    • Bangor, Wisconsin, UDA
    • Bangor, Gogledd Iwerddon
    • Bangor, Belle Ilse, Ffrainc